Achyddiaeth

Gall beddau fod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth am eich coeden deulu.

Mae achyddion yn aml yn dod o hyd i aelodau o’r teulu na fyddent yn gwybod amdanynt fel arall mewn beddau teuluol. Bydd y darganfyddiadau hyn yna’n agor llwybrau ymchwil newydd.

Rydym yn dal cofnodion claddu ers 1859, pan agorwyd Mynwent Cathays.

Gallwn chwilio am hyd at bum enw a chewch ganlyniadau ar gyfer pawb sydd wedi’u claddu yn y beddau y byddwn yn dod o hyd iddynt, e.e. os byddwn yn chwilio am 5 person ac yn dod o hyd iddynt mewn 5 bedd gwahanol, sydd â 4 claddedigaeth yr un, cewch wybodaeth am 20 person.

Byddwn yn anfon copïau i chi o’r gorchmynion claddu, sy’n cynnwys enw, oedran, cyfeiriad a swydd, yn ogystal ag unrhyw ddogfennau cysylltiedig fel derbynebau, mapiau a chynlluniau. Codir ffi am y gwasanaeth hwn.

Rydym yn dal cofnodion amlosgi ers i Amlosgfa Draenen Pen-y-graig Caerdydd agor ym 1953.

Nid yw cofnodion amlosgi ar gael i’r cyhoedd yn yr un modd â chofnodion claddu; gallwn roi gwybodaeth i chi, ond ni allwn gynnig copïau o unrhyw gofrestrau neu ddogfennau.

Gwneud cais am chwiliad

I wneud cais am chwiliad:

  • Llenwch y ffurflen gais yn ofalus
  • Rhaid cynnwys siec ar gyfer y swm llawn (sef £40 ar hyn o bryd)
  • Anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi a’r siec i’r cyfeiriad canlynol:

Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd,
Heol Draenen Pen-y-graig,
Rhiwbeina,
Caerdydd
CF14 9UA.

Copi o dystysgrifau

Mae tair ffordd o wneud cais am gopi o dystysgrifau genedigaeth, priodas a marwolaeth a gyhoeddwyd yng Nghaerdydd ers 1837 (pan ddechreuodd cofnodion swyddogol). Mae cofnodion Partneriaethau Sifil ar gael o 2005.

Ewch i Swyddfa Gofrestru Caerdyddi gael mwy o wybodaeth.

Archifau Morgannwg

Mae Archifau Morgannwg yn cynnwys cyfoeth o gofnodion yn ymwneud â hanes Morgannwg a’i phobl.

Mae’r ystafell ymchwilio ar agor i’r cyhoedd.

Ewch i Archifau Morgannwg i gael mwy o wybodaeth.

Llyfrgelloedd Caerdydd

Mae llyfrgelloedd Caerdydd yn lleoedd gwych i ymchwilio i hanes Caerdydd a’i phobl.

Ewch i wefan Cyngor Caerdydd i ddod o hyd i’ch llyfrgell agosaf.