Amlosgfa Draenen Pen-y-graig

Agorodd Mynwent Draenen Pen-y-graig ym 1952, gyda’r amlosgfa’n agor y flwyddyn ganlynol. Ym mlwyddyn gyntaf yr amlosgfa, cafwyd ychydig dros 1000 o amlosgiadau. Erbyn hyn rydyn ni’n cael bron i deirgwaith y ffigur hwn.

 

Yn 2000 agorodd Capel Briwnant i gynnig dewis amgen i Gapel mawr y Wenallt ac i ddarparu ar gyfer mwy a mwy o angladdau.

 

Ehangwyd y Fynwent yn 2010 ac agorwyd Swyddfa Ymholiadau newydd y flwyddyn ganlynol sy’n cynnig amgylchedd mwy priodol o lawer i deuluoedd gwrdd ar gyfer claddedigaethau a gwasgariadau gweddillion amlosgedig ac i wneud trefniadau ar gyfer eu hanwyliaid.

 

Byddwn yn cynnig gwybodaeth am ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn y fynwent.

Cyfleusterau

  • Maes Parcio
  • Mynediad i gerbydau
  • Swyddfa
  • Toiledau (Hygyrch)
  • Siop Flodau

Beddau sydd ar gael

  • Lawnt
  • Traddodiadol
  • Gweddillion a amlosgir

Hefyd:

  • Gardd wasgaru
  • Colwmbariwm
  • Llyfr coffa
  • Placiau gardd goffa
  • Coed coffa

Capeli Mynwent Draenen Pen-y-graig

Capel y Wenallt

  • Seddi – 170
  • Lle i sefyll – tua 50
  • Mae mwy o le i sefyll y tu mewn, ynghyd â sgriniau a seinyddion er mwyn i’r galarwyr allu dilyn y gwasanaeth
  • System cerddoriaeth ddigidol – yn gallu chwarae unrhyw gerddoriaeth sydd ar gael yn fasnachol a’r rhan fwyaf o emynau poblogaidd (angen 48 awr o rybudd)
  • Teyrngedau Gweledol – gall 2 sgrîn ddangos lluniau a fideo (mae angen eu cyflwyno o leiaf 72 awr ymlaen llaw – codir tâl ychwanegol)
  • Gwe-ddarllediadau – Ffrydio angladd ar-lein yn ddiogel ac yn fyw (codir tâl ychwanegol))
  • Recordiadau DVD neu CD ar gael (codir tâl ychwanegol)
  • Organ
  • Yn gallu cynnal ensembles cerddorol bach neu gorau bach (drwy drefnu ymlaen llaw)
  • Ystafell Aros
  • Toiledau (hygyrch)
  • Mynedfa wastad
  • System ddolen
  • Lleoedd parcio i bobl anabl
  • Cadair olwyn ar gael

Capel Briwnant

  • Seddi – 65
  • Lle i sefyll – cyfyngedig
  • System cerddoriaeth ddigidol – yn gallu chwarae unrhyw gerddoriaeth sydd ar gael yn fasnachol a’r rhan fwyaf o emynau poblogaidd (angen 48 awr o rybudd)
  • Teyrngedau Gweledol – gall sgrîn ddangos lluniau a fideo (angen eu cyflwyno o leiaf 72 awr ymlaen llaw – codir tâl ychwanegol)
  • Gwe-ddarllediadau – Ffrydio angladd ar-lein yn ddiogel ac yn fyw (codir tâl ychwanegol)
  • Recordiadau DVD neu CD ar gael (codir tâl ychwanegol)
  • Organ
  • Recordiadau DVD neu CD ar gael (codir tâl ychwanegol)
  • Toiledau (hygyrch)
  • Mynedfa wastad
  • System ddolen
  • System ddolen
  • Cadair olwyn ar gael

Digwyddiadur

Manylion Cyswllt

Cyfarwyddiadau

Mynwent Draenen Pen-y-graig.

Heol Draenen Pen-y-graig,

Rhiwbeina,

Caerdydd,

CF14 9UA.

 

Os yn defnyddio llywiwr lloeren, defnyddiwch god post CF14 6RG

Oriau agor

Dydd Llun i Ddydd Gwener Penwythnosau a Gwyliau’r Banc
9am – 6.45pm 10am – 6.45pm

Dydd Llun i Ddydd Gwener Penwythnosau a Gwyliau’r Banc
9am – 5.45pm 10am – 5.45pm

Dydd Llun i Ddydd Gwener Penwythnosau a Gwyliau’r Banc
9am – 4.45pm 10am – 4.15pm

Dydd Llun i Ddydd Gwener Penwythnosau a Gwyliau’r Banc
9am – 4.45pm 10am – 3.45pm