Claddedigaethau

Yng Ngwasanaethau Profedigaeth Caerdydd rydym yn gofalu am wyth mynwent ledled Caerdydd.

Os ydych am gladdu, mae beddau newydd ar gael ym Mynwent y Gogledd, Mynwent y Gorllewin a Mynwent Pant-mawr.

Gellir claddu mewn beddau teuluol presennol ym mhob un o’n mynwentydd.

Prynu bedd

Os ydych wedi colli anwylyn ac yr hoffech brynu bedd, gallwn naill ai ddyrannu llain gladdu i chi neu gallwch wneud apwyntiad i gwrdd ag un o’n staff i ddewis llain.

Bydd angen i chi drefnu’r dyddiad claddu yn gyntaf, naill ai drwy eich trefnydd angladdau, neu eich hun, yn achos claddedigaeth a drefnir gan deulu.

Efallai yr hoffech brynu bedd er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol. Gall hyn fod yn rhan o Gynllun Angladd Rhagdaledig i dalu am gost y bedd, y claddu a gwasanaethau gweithwyr angladdau proffesiynol neu, efallai’r cyfan yr hoffech ei wneud yw prynu llain gladdu ymlaen llaw.

  • Gall beddau gynnwys hyd at 2 arch wedi’u claddu a 6-8 o flychau gweddillion wedi’u hamlosgi.
  • Mae cofebau beddau ar ffurf lawnt neu ar ffurf draddodiadol.
  • Gellir dewis beddau ar ôl trefnu’r gladdedigaeth. Cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad.  Os na fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn dewis bedd ar eich rhan.
  • Gellir prynu beddau i’w defnyddio yn y dyfodol unrhyw bryd drwy gysylltu â ni, a gellir prynu beddau ychwanegol pan drefnir claddedigaeth os hoffai aelodau o’r teulu gael eu claddu gerllaw yn y dyfodol. Codir tâl ychwanegol am hyn. Gweler ein ffioedd.
  • Mae beddau ar gyfer gweddillion wedi’u hamlosgi ar gael ym Mynwent Draenen Pen-y-graig, Mynwent y Gorllewin a Mynwent Cathays. Fel arfer, mae beddau ar gyfer gweddillion wedi’u hamlosgi yn dal hyd at bedwar blwch, a gellir eu dewis fel uchod.

Cynnal a Chadw Beddau

Fel y perchennog, chi sy’n gyfrifol am y gwaith o osod, cynnal a chadw ac adfer eich cofeb yn ddiogel. Gallwch ddysgu mwy am gynnal a chadw eich bedd ac am ein cynllun cynnal a chadw beddau.