Cofebau

Placiau

Mae placiau coffa ar gael ym Mynwent Draenen Pen-y-graig a Mynwent y Gorllewin.

Mae’r placiau’n cael eu prydlesu am 10 mlynedd gyda’r opsiwn i estyn y brydles ar unrhyw adeg neu i’w hadnewyddu ar ddiwedd y cyfnod:

Draenen Pen-y-graig

Mae dau opsiwn ar gyfer placiau coffa yn Nraenen Pen-y-graig:

  • Plac ithfaen yn y Gerddi Coffa – mae 2 faint ar gael: 290mm x 100mm gyda blwch pwysïau neu 180mm x 120mm gyda deiliad blodau mwy.
  • Plac efydd wedi’i osod ar fainc.
  • Coed helyg coffa

Os hoffech gael plac coffa ym Mynwent Draenen Pen-y-graig, gallwch wneud cais ar-lein.

Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen gais.

Mynwent y Gorllewin

Mae tri opsiwn ar gael ar gyfer cofeb ym mynwent y Gorllewin:

  • Plac ithfaen yn yr Ardd Goffa. 245mm x 140mm. Gall dyluniad gael ei gynnwys o’r dewisiadau sydd ar gael.
  • Plac efydd ar y Wal Goffa.
  • Plac efydd wedi’i osod ar fainc.

Meinciau

Mae’n bosibl prydlesu lle ar gyfer plac efydd ar fainc sydd wedi’i gwneud o ddeunydd wedi’i ailgylchu. Mae’r meinciau wedi’u lleoli mewn ardaloedd penodol a gellir rhoi hyd at 3 phlac efydd ar bob mainc am gyfnod prydlesu cychwynnol o 10 mlynedd.

Cysylltwch â ni i drafod cofebau ar feinciau.

Gwneud cais

Postiwch y ffurflen gais wedi’i llenwi a siec i:

Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd
Heol Draenen Pen-y-graig,
Rhiwbeina,
Caerdydd
CF14 9UA.