Trefnu angladd

Gall trefnu angladd fod yn brofiad emosiynol a llawn straen ac rydym am wneud y broses yn haws a rhoi tawelwch meddwl i chi.

Mae sawl cam y mae’n rhaid i chi eu cymryd wrth drefnu angladd.

Cofrestru’r farwolaeth

Os ydych newydd golli anwylyn, y peth cyntaf y bydd angen i chi ei wneud yw cofrestru’r farwolaeth.

Os digwyddodd y farwolaeth yng Nghaerdydd, bydd angen i chi gofrestru’r farwolaeth gyda swyddfa gofrestru Cyngor Caerdydd.

Trefniadau’r seremoni

Gall trefnydd angladdau eich helpu i gynllunio trefniadau’r seremoni a’r gofynion cyfreithiol, p’un a ydych yn dewis claddu neu amlosgi. Gweler dewis trefnydd angladdau.

Gallwn ddarparu gwasanaeth angladdau proffesiynol ac urddasol am gost isel sydd ar gael i holl drigolion Caerdydd. Gallwch gael mwy o wybodaeth am wasanaeth angladdau Cyngor Caerdydd yma.

Gallwch hefyd drefnu’r angladd eich hun os nad ydych eisiau help trefnydd angladdau neu os nad oes ei angen arnoch. Gweler trefnu angladd eich hun.

Cofebau

Efallai yr hoffech edrych ar rai o’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer cofebau yn ein mynwentydd. Gallwn gynnig cerrig beddau, placiau coffa, cofnod yn y llyfr cofio a mwy. Gweler ein hopsiynau coffa.

Cymorth a chyngor

Rydym bob amser wrth law i gynnig cyngor diduedd am ddim ar bob agwedd ar drefnu angladd.

Mae llawer o grwpiau annibynnol a llywodraethol hefyd wedi’u sefydlu i gynnig cymorth a chyngor ynghylch materion ariannol, iechyd a lles a materion cyfreithiol. Gweld grwpiau cymorth a chyngor.