Claddgelloedd coffa Panorama a Sanctwm
Mae’r claddgelloedd coffa Panorama a Sanctwm ym Mynwent Draenen Pen-y-graig a Mynwent y Gorllewin yn darparu lle pwrpasol i gadw ac anrhydeddu gweddillion amlosgedig eich anwylyd.
[Peidiwch â gadael unrhyw flodau neu gofarwyddion personol wrth y naill gofeb neu’r llall, ac eithrio yn y fasys a ddarperir. Bydd unrhyw eitemau sy’n cael eu gadael yn cael eu tynnu a’u gwaredu.]
Claddgell goffa Panorma
Gall claddgelloedd cilfach ddal 2 arch ac maent ar gael i’w prydlesu am gyfnod cychwynnol o 20 mlynedd. Mae pob cilfach hefyd yn dod gyda phlac y gellir ei arysgrifio gyda’ch neges eich hun.
Mae pris pob cilfach yn amrywio:
- Lefel 1: £1250
- Lefel 2: £1150
- Lefel 3: £1050
- Lefel 4: £950

Ar ddiwedd cyfnod y brydles, byddwch yn cael yr opsiwn i’w hadnewyddu. Bydd hyn yn costio £135 am gyfnod prydles ychwanegol o 5 mlynedd.
Gallwch ymestyn y brydles am gyfnodau o 5 neu 10 mlynedd, am hyd at 100 mlynedd. Gallwch ymestyn y brydles ar unrhyw adeg.
Eich cyfrifoldeb chi yw adnewyddu’r brydles cyn iddi ddod i ben. Os nad ydych yn adnewyddu’r brydles, caiff y gweddillion amlosgedig eu tynnu o’r gilfach a’u gwasgaru mewn un o’r Gerddi Coffa, neu caiff eich teulu fynd â nhw.
Gallwch hefyd gadw’r plac coffa o’r gilfach. Os nad ydych chi’n ei hawlio, rydym yn cadw’r hawl i’w waredu.
Costau
Pan fyddwch chi’n prydlesu’r gilfach, byddwch chi’n cael y canlynol:
- cyfnod prydles cychwynnol o 20 mlynedd,
- dodi’r gweddillion amlosgedig yn y gilfach am y tro cyntaf,
- fâs flodau efydd, a
- plac gwenithfaen per las gloyw gydag 80 llythyren ar gyfer arysgrif.
Os hoffech osod mwy o weddillion yn y gilfach, bydd hynny’n costio £100 bob tro
Os hoffech ymestyn yr arysgrif ar y plac, codir tâl o £2 am bob llythyren ychwanegol. Gall eich plac gynnwys uchafswm o 259 o lythrennau a bylchau. Gallwch ddewis i’ch arysgrif gael ei thorri mewn llythrennau arian neu aur.
Mae ffotograffau’n costio £150 ychwanegol a gallwch ddewis ffrâm arian neu aur ar eu cyfer.
Gwneud cais
Os hoffech drafod rhagor o fanylion neu ymweld â Mynwent y Gorllewin neu Fynwent Draenen Pen-y-graig i ddewis cilfach, cysylltwch â ni.
Claddgell goffa Sanctwm
Gall claddgelloedd cilfach ddal 4 arch ac maent ar gael i’w prydlesu am gyfnod cychwynnol o 20 mlynedd. Cost y gilfach yw £1550 ac mae’n dod gyda phlac y gellir ei arysgrifio gyda’ch neges eich hun.

Ar ddiwedd cyfnod y brydles, byddwch yn cael yr opsiwn i’w hadnewyddu. Gallwch ymestyn y brydles am gyfnodau o 5 neu 10 mlynedd, am hyd at 100 mlynedd. Bydd yn costio £135 am gyfnod prydles ychwanegol o 5 mlynedd. Gallwch ymestyn y brydles ar unrhyw adeg.
Eich cyfrifoldeb chi yw adnewyddu’r brydles cyn iddi ddod i ben. Os nad ydych yn adnewyddu’r brydles, caiff y gweddillion amlosgedig eu tynnu o’r gilfach a’u gwasgaru mewn un o’r Gerddi Coffa, neu caiff eich teulu fynd â nhw.
Gallwch hefyd gadw’r plac coffa o’r gilfach. Os nad ydych chi’n ei hawlio, rydym yn cadw’r hawl i’w waredu.
Costau
Pan fyddwch chi’n prydlesu’r gilfach, byddwch chi’n cael y canlynol:
- cyfnod prydles cychwynnol o 20 mlynedd,
- dodi’r gweddillion amlosgedig yn y gilfach am y tro cyntaf,
- 2 fâs flodau fetel, a
- plac gwenithfaen per las gloyw gydag 80 llythyren ar gyfer arysgrif.
Os hoffech osod mwy o weddillion yn y gilfach, bydd hynny’n costio £100 bob tro.
Os hoffech ymestyn yr arysgrif ar y plac, codir tâl o £2 am bob llythyren ychwanegol. Gall eich plac gynnwys uchafswm o 490 o lythrennau a bylchau. Gallwch ddewis i’ch arysgrif gael ei thorri mewn llythrennau arian neu aur.
Mae ffotograffau’n costio £100 ychwanegol a gellir eu darparu gyda neu heb ffrâm aur neu arian.
Gwneud cais
Os hoffech drafod rhagor o fanylion neu ymweld â Mynwent y Gorllewin neu Fynwent Draenen Pen-y-graig i ddewis cilfach, cysylltwch â ni.
