Diogelwch a chynnal a chadw cofebau

Mae’n bwysig cofio eich bod yn cymryd cyfrifoldeb am nifer o bethau drwy roi cofeb yn y fynwent, er ein bod yn cynnal gwiriadau diogelwch yn rheolaidd.

  • Eiddo’r perchennog yw’r gofeb. Ni fydd yn dod yn eiddo i’r Awdurdod dan unrhyw amgylchiadau.
  • Rhaid i chi sicrhau bod eich cofeb yn cael ei chadw mewn cyflwr diogel. Dylech sicrhau ei bod yn cael ei chynnal a’i chadw’n rheolaidd gan saer coffa cymeradwy – bydd yn ei harchwilio ac yn cyflawni unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol. Gallech ystyried prynu yswiriant ar gyfer eich cofeb.
  • Fel y perchennog tir, mae angen i Gyngor Dinas Caerdydd sicrhau bod y tiroedd yn parhau’n ddiogel i’r cyhoedd. Caiff unrhyw gofebau dros 500mm o uchder eu profi, ac os bydd cofeb yn methu’r prawf bydd angen i saer coffa ei hadfer i safonau’r diwydiant. Perchennog y bedd fydd yn talu am hyn.
  • Ers 2000, mae system angori wedi’i defnyddio ar y rhan fwyaf o gofebau dros 500mm o uchder, a bydd angen i unrhyw gofeb hŷn sy’n methu’r prawf diogelwch gael ei hail-osod gan ddefnyddio’r system angori.
  • Mae’r holl waith sy’n cael ei gyflawni yn dod gyda Thystysgrif Gydymffurfiaeth gan y saer coffa. Dylai hyn sicrhau na fydd y gofeb yn methu prawf diogelwch yn y dyfodol.

Gweler Cynnal a chadw tiroedd y mynwentydd

Diogelwch mewn mynwentydd

Yn anffodus, mae damweiniau’n digwydd o bryd i’w gilydd mewn mynwentydd. Un enghraifft yw pan fo person yn rhoi ei law ar gofeb i ddal ei hun i fyny wrth weithio ar fedd.  Cadwch hyn mewn cof a pheidiwch â defnyddio’r gofeb fel hyn.

Caniateir cyrbau neu ymylon o amgylch y bedd mewn rhai adrannau. Weithiau gall y rhain fod yn anodd eu gweld ac achosi perygl baglu.

Peidiwch â gadael i blant chwarae yn y fynwent nac ymweld â hi heb oedolyn.