Cofebau

Coed helyg coffa

Cofiwch eich anwylyn drwy roi deilen wedi’i phersonoli ar un o’n coed helyg coffa.

Mae canghennau’r coed wedi’u gwneud â llaw o fetel gyda boncyff ithfaen yn y canol. Mae’r coed wedi’u cynllunio i dreulio dros amser sy’n rhoi golwg wladaidd iddynt.

Mae pob deilen wedi’i gwneud o ithfaen solet a gellir rhoi arysgrif arni sy’n cynnwys enw, blwyddyn geni a blwyddyn marwolaeth eich anwylyn.

Lleoliad y coed helyg

Mae dwy goeden helyg goffa yng Ngerddi Coffa Amlosgfa Draenen Pen-y-graig.

Gallwch ddewis naill ai’r Goeden Helyg yng Ngardd y Clychau Aur, neu’r Goeden Helyg sydd yng nghanol y Gerddi Grug, Celyn a  Thresi Aur.

Prisiau

The fee for an inscribed granite “Leaf” and initial Five Year Lease is £135.

You can apply for a renewal of the lease before the expiry date if you wish.

Gwneud cais

I wneud cais am ddeilen wedi’i phersonoli ar un o’r Coed Helyg Coffa yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig, lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais.

Lawrlwytho’r ffurflen gais Coed Helyg Coffa (318kb PDF)

Postiwch y ffurflen wedi’i llenwi a siec i:

Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd
Heol Draenen Pen-y-graig,
Rhiwbeina,
Caerdydd
CF14 9UA.