Cynnal a chadw tiroedd y mynwentydd
Rydym yn dilyn rhaglen cynnal a chadw reolaidd ym mhob un o’n Mynwentydd.
Mae’r holl waith hwn yn dibynnu ar y tywydd, ac ni allwn fod yn gyfrifol am blanhigion, addurniadau nac unrhyw eitemau eraill sy’n cael eu gadael yn y tiroedd.
Yn dilyn claddedigaeth
- 14 i 21 diwrnod – caiff blodau eu symud ymaith.
- Dyddiad claddu hyd at 20 wythnos yn ddiweddarach – caiff y bedd ei archwilio a chaiff mwy o bridd ei roi arno yn ôl yr angen oni bai ei bod yn amlwg bod y teulu’n ei gynnal ac yn ei gadw.
- Ar ôl 20 wythnos – caiff y bedd ei archwilio eto a chaiff tywarch neu hadau glaswellt eu gosod arno, oni bai ei bod yn amlwg bod y teulu’n ei gynnal a’i gadw.
- Gall gymryd hyd at 12 mis, gan ddibynnu ar gyflwr y tir, i’r bedd setlo’n llawn.
O 12 mis ar ôl claddedigaeth
Byddwn bob amser yn torri’r glaswellt ond os bydd angen gwasanaeth mwy unigol arnoch, ceir rhaglen cynnal a chadw beddau a all helpu i sicrhau’r golwg gorau i’r bedd.
Cynnal a Chadw Beddau
Fel y perchennog, chi sy’n gyfrifol am y gwaith o osod, cynnal a chadw ac adfer eich cofeb yn ddiogel.
Pan fydd y saer coffa wedi cwblhau’r gwaith gosod, bydd yn tynnu slip o waelod y drwydded ac yn ei ddychwelyd i’r swyddfa yn Nraenen Pen-y-graig
Byddwn yn:
- Gwirio’r gofeb i sicrhau bod y gwaith y gofynnwyd amdano yn gywir a’i fod yn bodloni safonau Cymdeithas Genedlaethol y Seiri Coffa Mae’r ddolen yn agor mewn ffenestr newydd. a’r Sefydliad Safonau Prydeinig Mae’r ddolen yn agor mewn ffenestr newydd.
- Cysylltu â’r saer coffa i ofyn iddo ddychwelyd a chwblhau’r gwaith os oes unrhyw broblemau.
- Diweddaru cofnod y bedd
- Cynnal a chadw’r glaswellt o gwmpas eich cofeb yn rheolaidd (Yn ystod y tymor tyfu, ein nod yw torri’r lawnt ddwywaith y mis a thorri o amgylch cofebau bob mis)
- Archwilio diogelwch cofebau o bryd i’w gilydd
- Pan fydd angen, gwneud y gofeb yn ddiogel neu gysylltu â’r saer coffa i ofyn iddo wneud y gofeb yn ddiogel.
Rhaglen cynnal a chadw beddau
Gallwn gynnig cynllun cynnal a chadw beddau blynyddol i sicrhau bod beddau’n cael eu cynnal a’u cadw’n dda.
Opsiwn 1 | Opsiwn 2 | Opsiwn 3 | Opsiwn 4 | Opsiwn 5 | |
---|---|---|---|---|---|
Nifer yr ymweliadau tendio | 2 | 4 | 8 | 8 | 1 |
Torri glaswellt ar a/neu o amgylch llain bedd | ✔ | ✔ | ✔ | ✔ | |
Clirio toriadau o’r gofeb a’i golchi â dŵr | ✔ | ✔ | ✔ | ✔ | |
Cofeb hanner lleuad/â ffin ar i fyny | ✔ | ✔ | ✔ | ✔ | |
Gosod torch/blodau ddwywaith y flwyddyn | +£45 | +£45 | ✔ | ||
Plannu blodau yn y gwanwyn a’r haf | ✔ | ✔ | |||
Ffotograff | ✔ | ✔ | ✔ | ✔ | ✔ |
Glanhau a gosod pridd newydd unwaith | ✔ | ||||
Cost | £50 | £100 | £170 | £200 | £90 |
Gan na fydd yn bosibl i chi ymweld â’r bedd bob amser, byddwn yn rhoi llun o’r bedd i chi bob tro y byddwn yn gwneud gwaith arno. Drwy wneud hyn, cewch dawelwch meddwl bod y gwaith wedi’i wneud.
Byddwn yn gosod blodau ffres neu dorch tymhorol ar y bedd ddwywaith y flwyddyn.
Nodwch y dyddiadau ar y ffurflen gais.
Gwneud Cais a Thalu
Gallwch dalu ymlaen llaw drwy arian parod, siec neu gerdyn debyd.
Dim ond i Adrannau Traddodiadol y mae Opsiwn 3 ac Opsiwn 4 yn berthnasol. Ffoniwch 029 2054 4820 i gadarnhau’r manylion cyn talu.
Lawrlwytho’r ffurflen gais am gynnal a chadw Beddau (23KB DOC)
I wneud cais am y Cynllun Cynnal a Chadw Beddau Blynyddol:
- Llenwch y ffurflen gais atodedig yn ofalus
- Anfonwch y ffurflenni wedi’u llenwi i’r cyfeiriad canlynol:
Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd
Heol Draenen Pen-y-graig, Rhiwbeina,
Caerdydd
CF14 9UA.