Pob mynwent

Mynwent Cathays

Agorwyd mynwent Cathays ym mis Gorffennaf 1859.

Y gladdedigaeth gyntaf oedd Maria Dolores DePico, merch 25 oed i Lysgennad Sbaen i Gaerdydd. Ers hynny, mae dros 224,000 o gladdedigaethau wedi’u cynnal, gan gynnwys llawer o unigolion blaenllaw Caerdydd, gan gynnwys meiri, meistri llongau, arglwyddi ac eraill a helpodd i lunio’r ddinas rydyn ni’n ei hadnabod heddiw.

Yn 2006, ffurfiwyd Cyfeillion Mynwent CathaysLink opens in new window. i warchod etifeddiaeth hanesyddol y Fynwent ac i gynnal a chadw’r tiroedd ar gyfer ymwelwyr. Heddiw mae’r Fynwent yn hafan i fywyd gwyllt ac yn werthfawr o ran ei hetifeddiaeth hanesyddol gyfoethog. Mae’r Fynwent yn cynnal rhaglen amrywiol a chynyddol o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.

Gweld map mynwent Cathays

Cyfleusterau

  • Mannau parcio ceir
  • Mynediad i gerbydau
  • Toiledau cyhoeddus hygyrch

Beddau ar gael

  • Gweddillion wedi’u hamlosgi

Nodweddion y fynwent

Oriau Agor

Yn ystod yr wythnos: 9am i 4:45pm
Penwythnosau a gwyliau banc: 10am i 4:45pm.

Sut i gyrraedd

Safle Heol y Dderwen Deg:
Mynwent Cathays.
Heol y Dderwen Deg,
Cathays,
Caerdydd
CF24 4PY.

 

Safle Heol Allensbank:
Mynwent Cathays
Heol Allensbank
Caerdydd
CF14 3QY

 

Cynnal a chadw tiroedd y mynwentydd

Rydym yn dilyn rhaglen cynnal a chadw reolaidd ym mhob un o’n Mynwentydd
Rydym hefyd yn cynnig rhaglen cynnal a chadw beddau.