Cofebau

Cerrig Beddau

Cydnabyddir yn eang bwysigrwydd cofebau fel ffordd o gofio am anwylyn, fel ffocws ar gyfer galar ac i fod yn gofnod hanesyddol ar gyfer blynyddoedd i ddod.

 

Gwneud cais

Bydd angen cyflwyno cais am drwydded goffa cyn i unrhyw waith gael ei wneud yn y fynwent. Mae’r ddogfen hon ar gael gan eich saer coffa. Rhaid i bob saer coffa sy’n trwsio cofeb o fewn ein mynwentydd fod wedi’i gofrestru gyda Chofrestr Seiri Coffa Achrededig Prydain.

Caiff y cais ei wirio gennym ni i sicrhau bod y person cywir, sef perchennog y bedd, wedi’i lofnodi. Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr a ddylech lofnodi. Rydym yn gwirio bod y dimensiynau o fewn ein rheoliadau a bod y saer coffa’n aelod presennol o Gofrestr Seiri Coffa Achrededig Prydain.

Ar ôl i’r drwydded gael ei chyhoeddi ac i’r saer coffa gwblhau’r gwaith, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y gofeb wedi’i gosod ar y bedd cywir yn foddhaol. Codir tâl (£100) am y gwasanaeth hwn.

Os byddwch am i’r gofeb gael ei hailwampio neu ei glanhau gan saer coffa, rhaid gwneud cais am drwydded o hyd. Byddwn yn cyflawni’r gwiriadau arferol ond, i annog pobl i gynnal a chadw cofebau, ni fyddwn yn codi tâl.

Gweler gwybodaeth am ddiogelwch a chynnal a chadw cofebau.