Cofebau

Llyfr cofio

Yn hanesyddol, mae llyfrau bob amser wedi’u defnyddio i storio gwybodaeth. Gall cenedlaethau’r dyfodol edrych ar arysgrifau sydd yn y Llyfr Cofio.

Mae pob rhifyn o’r llyfr yn cynnwys tri mis o gofnodion ac mae ar agor ar y dudalen gyfatebol.

 

Pam rhoi cofnod yn y Llyfr?

Drwy ddewis rhoi cofnod yn y Llyfr, bydd yr unigolyn yn cofio ei anwylyn mewn ffordd bersonol ac unigryw, yn ogystal â chreu atgof parhaol.

Mae hwn yn rhywbeth personol iawn oherwydd gall yr unigolyn ddewis yn union sut olwg fydd ar y cofnod.

Gall yr unigolyn benderfynu ar y canlynol wrth greu cofnod:

  • yr arysgrif;
  • lliw’r inc a ddefnyddir ar gyfer y priflythrennau yn yr arysgrif (glas neu goch);
  • y dyddiad y bydd y cofnod yn ymddangos yn y llyfr (nid oes rhaid i hyn fod ar ddyddiad y farwolaeth ond yn hytrach gallai fod ar y dyddiad geni, neu ar y pen-blwydd);
  • arwyddlun neu waith celf arall a all fod yn arbennig i’r teulu.

Mae pob cyfrol o’r Llyfr Coffa yn cynnwys tri mis. Unwaith y bydd y neges wedi’i gosod bydd yn aros yn y Llyfr am byth.

Amserlen ar gyfer cyflwyno neges:

  • Rhaid derbyn eich cais erbyn 5ed Hydref ar gyfer gosod yng nghyfrol Ionawr/Chwefror/Mawrth
  • Rhaid derbyn eich cais erbyn 5ed Chwefror ar gyfer gosod yng nghyfrol Ebrill/Mai/Mehefin
  • Rhaid derbyn eich cais erbyn 5ed Mai ar gyfer gosod yng nghyfrol Gorffennaf/Awst/Medi
  • Rhaid derbyn eich cais erbyn 5ed Awst ar gyfer gosod yng nghyfrol Hydref/Tachwedd/Rhagfyr

 

Cerdyn Cofio

Yn ogystal â’r arysgrif yn y Llyfr Cofio, bydd y cofnod hefyd ar gael ar ffurf cerdyn.  Os yw’r cais ar gyfer y llyfr yn cynnwys darn o waith celf, gall y teulu benderfynu a fydd hwn hefyd yn ymddangos yn y cerdyn cofio.  Gellir gwneud cais am y cardiau hyn ar yr un pryd â’r prif gofnod yn y Llyfr, neu unrhyw bryd yn y dyfodol.

Prisiau

Llyfr cofio
Opsiynau Pris
Pob llinell o arysgrif (angen o leiaf ddwy linell) £25
Gwaith celf, Arwyddlun Blodeuol neu Fathodyn * £215
Priflythyren liw wedi’i haddurno * £215
Priflythyren dalen aur * £225

* Pris yn cynnwys arysgrif 5 llinell

Cardiau cofio
Opsiynau Pris
Pob llinell o arysgrif (angen o leiaf ddwy linell) £10
Gwaith celf, Arwyddlun Blodeuol neu Fathodyn * £140
Priflythyren liw wedi’i haddurno * £140
Priflythyren dalen aur * £150

* Pris yn cynnwys arysgrif 5 llinell.

Gwneud cais

I wneud cais am gofnod yn y Llyfr Cofio lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais isod yn ofalus.

  • Rhaid gwneud cais am o leiaf ddwy linell.
  • Rhaid nodi dyddiad y cofnod a lliw’r inc – mae unrhyw beth arall sy’n ymwneud â’r arysgrif, fel arwyddlun neu waith celf arall, yn opsiynol.

Gwneud cais am gofnod yn y Llyfr Coffa

or

Lawrlwythwch ffurflen gais Llyfr Cofio (135KB PDF)

Postiwch y ffurflen wedi’i llenwi a siec i:

Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd
Heol Draenen Pen-y-graig,
Rhiwbeina,
Caerdydd
CF14 9UA.