Angladdau babanod
Os cawsoch faban yn yr ysbyty oedd yn farw-anedig, bydd staff yno sy’n gallu helpu a rhoi cyngor i chi ynghylch trefnu angladd. Yn aml, bydd yr ysbyty yn gallu argymell cyfarwyddwr angladdau i drefnu angladd i’ch baban, ond gallwch bob amser wneud y trefniadau gyda chyfarwyddwr angladdau o’ch dewis neu’n uniongyrchol gyda ni.
Amlosgi
Nid oes ffi amlosgi am blentyn dan 18 oed ac mae ystod lawn o gyfleusterau yn y ddau gapel sydd ar gael i chi eu defnyddio (er y codir tâl am rai ohonynt).
Gallwch ddefnyddio y naill gapel neu’r llall ac mae amserau ar gael ar gyfer gwasanaethau yn y bore a’r prynhawn, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac ar foreau Sadwrn (er y codir tâl ychwanegol ar gyfer boreau Sadwrn).
Bydd y gweddillion wedi’u hamlosgi ar gael ymhen 2 ddiwrnod gwaith ar ôl yr amlosgi.
Ar ôl yr amlosgi, mae llawer o opsiynau ar gael i chi sy’n cynnwys mynd â’r gweddillion adref gyda chi, eu gwasgaru yn y Gerddi Coffa (ym Mynwent y Gorllewin a Draenen Pen-y-graig) neu eu claddu mewn bedd.
Claddu
Ceir adrannau penodol ar gyfer claddu babanod ym Mynwent Draenen Pen-y-graig a Mynwent y Gorllewin. Mae’r beddau yn yr ardaloedd hyn yn darparu ar gyfer un gladdedigaeth ar gyfer baban neu fabanod.
Ni chodir tâl am gladdu yn un o’r beddau hyn nac am y bedd ei hun; caniateir gosod rhai eitemau ar y bedd ac os penderfynwch osod cofeb, gallwch brynu un drwy’r Gwasanaethau Profedigaeth pan fyddwch yn barod. Ni allwch brynu cofeb yn uniongychol gan saer coffa i’w rhoi yn yr adran i fabanod.
Ar ôl y claddu, byddwn yn rhoi arwyddbost ar y bedd gydag enw’r baban, hyd yn oed os nad oedd angen cofrestru’r baban.
Os byddai’n well gennych gladdu eich baban mewn bedd teuluol neu mewn bedd newydd sydd â lle ar gyfer claddedigaethau yn y dyfodol, mae beddau ar gael i’w prynu ym Mynwent Draenen Pen-y-graig, Mynwent Pantmawr a Mynwent y Gorllewin. Ni chodir tâl ar adeg yr angladd ar gyfer claddu eich baban a byddwch yn gallu gosod cofeb ar y bedd. Pan fydd oedolyn yn cael ei gladdu yn y bedd, codir tâl am yr Hawl Claddu Unigryw a thâl am gladdu’r oedolyn.
Mae amseroedd claddu ar gael yn y bore a’r prynhawn, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall Llywodraeth Cymru roi grant i helpu gyda chostau angladdau plant. Gallwch ddysgu mwy am y grant cymorth angladdau plant yma.