Pob mynwent

Mynwent Draenen Pen-y-graig

Agorodd Mynwent Draenen Pen-y-graig ym 1952, gyda’r amlosgfa’n agor y flwyddyn ganlynol.

Ym mlwyddyn gyntaf yr amlosgfa, cynhaliwyd ychydig dros 1000 o amlosgiadau. Erbyn hyn cynhelir bron teirgwaith y ffigur hwn.

Yn 2000 agorodd Capel Briwnant i gynnig dewis amgen i gapel mawr y Wenallt ac i ddarparu ar gyfer y nifer cynyddol o angladdau. Ehangwyd y Fynwent yn 2010 ac agorwyd Swyddfa Ymholiadau newydd y flwyddyn ganlynol sy’n cynnig amgylchedd mwy priodol o lawer i deuluoedd gwrdd ar gyfer claddu a gwasgaru gweddillion wedi’u hamlosgi ac i wneud trefniadau ar gyfer eu hanwyliaid.

Siop flodau Pen-y-graig – 029 2062 0625

Gweld map mynwent Draenen Pen-y-graig

Cyfleusterau

  • Mannau parcio ceir
  • Mynediad i gerbydau
  • Toiledau cyhoeddus hygyrch
  • Swyddfa ymholiadau
  • Swyddfa
  • Siop flodau

Beddau ar gael

  • Lawnt
  • Traddodiadol
  • Gweddillion wedi’u hamlosgi

Hefyd:

  • Gardd wasgaru
  • Colwmbariwm
  • Llyfr cofio
  • Placiau gardd goffa
  • Coeden goffa

Capeli gorffwys

Mae gan fynwent Draenen Pen-y-graig ddau gapel gorffwys.

Oriau Agor

Yn ystod yr wythnos: 9am i 6:45pm
Penwythnosau a gwyliau banc: 10am i 6:45pm.

Sut i gyrraedd

Mynwent Draenen Pen-y-graig .
Thornhill Road,
Rhiwbina,
Caerdydd,
CF14 9UA.

Os yn defnyddio llywiwr lloeren, defnyddiwch god post CF14 6RG

 

 

Cynnal a chadw tiroedd y mynwentydd

Rydym yn dilyn rhaglen cynnal a chadw reolaidd ym mhob un o’n Mynwentydd
Rydym hefyd yn cynnig rhaglen cynnal a chadw beddau.