Gwasanaeth Angladdau Cyngor Caerdydd
Gall Cyngor Caerdydd ddarparu gwasanaeth angladdau proffesiynol ac urddasol i drigolion Caerdydd am gost is na llawer o gyfarwyddwyr angladdau preifat yn y ddinas.
Mae’r trefniadau angladd safonol a gynigir gan Wasanaeth Angladdau Cyngor Caerdydd yn cynnwys:
- Casglu’r ymadawedig o fewn i ffiniau Caerdydd.
- Arch â haen o dderw golau neu dderw tywyll, addurniadau a ffitiadau.
- Paratoi a gwisgo’r corff.
- Arddangos y corff yn y Capel Gorffwys.
- Hers ac un limwsîn
- Gwasanaeth angladd urddasol.
Mae’r gwasanaeth hwn ond ar gael lle mae’r ymadawedig yn un o drigolion Caerdydd a lle cynhelir yr angladd mewn mynwent neu amlosgfa a reolir gan y Cyngor.
Trefnu’r angladd
I drefnu angladd gyda ni cysylltwch â’n darparwr a gofynnwch am ‘Gwasanaeth Angladdau Cyngor Caerdydd’.
Manylion cyswllt
Ffôn: 029 2000 2818
E-bost: info@whiterosefunerals.com
Gwefan: White Rose Funerals
Facebook: White Rose Funerals
Cyfeiriad
White Rose Funerals,27-29 Heol y Sblot,
Caerdydd,
CF24 2BU
Y costau
Gall fod yn anodd amcangyfrif cost gyfan angladd a gall hyn fod yn destun pryder i lawer o bobl.
Gallwn roi syniad i chi o’r costau ym Mynwent Draenen Pen-y-graig ac Amlosgfa Caerdydd.
Cremations
Trefniadau angladd wedi'u darparu gan White Rose Funerals | £980 |
Ffi amlosgi gan gynnwys defnyddio capel y Wenallt neu gapel Briwnant (mae system gerddoriaeth ar gael) a gwasgaru’r gweddillion wedi’u hamlosgi yn un o’r gerddi coffa | £780 |
Ffioedd i feddygon am dystysgrif amlosgi (amcangyfrif) | £164 |
Burials
Trefniadau angladd wedi'u darparu gan White Rose Funerals | £980 |
Prynu bedd newydd (100 mlynedd) am ddwy gladdedigaeth | £1000 |
Ffi i gloddio’r bedd, ei baratoi a’i lenwi eto | £880 |
Nid yw’r costau amcangyfrifedig hyn yn cynnwys blodau, y glerigiaeth, ffioedd eglwys na hysbysiadau coffa.