Polisi Preifatrwydd y Gwasanaethau Profedigaeth

Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae’r Gwasanaethau Profedigaeth yn defnyddio’r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau.   

Mae’r Gwasanaethau Profedigaeth yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef Rheolydd y Data at ddibenion y data sy’n cael ei gasglu.  Prosesir yr holl ddata personol yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018.  

Pynciau:

  • Pa ddata rydym yn ei gasglu a pham?
  • Sut rydym yn casglu eich data?
  • Sut byddwn yn defnyddio eich data?
  • Sut rydym yn storio eich data?
  • Marchnata
  • Beth yw eich hawliau diogelu data?
  • Beth yw cwcis?
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis?
  • Pa fathau o gwcis rydym yn eu defnyddio?
  • Sut i reoli eich cwcis
  • Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill
  • Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
  • Sut i gysylltu â ni
  • Sut i gysylltu â’r awdurdodau priodol

Pa ddata rydym yn ei gasglu?

Mae’r Gwasanaethau Profedigaeth yn casglu’r data canlynol:

  • Gwybodaeth adnabod bersonol (Enw, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn)
  • Perthynas â’r ymadawedig (priod, ysgutor, plentyn, perthynas agosaf, arall)

Cesglir hyn at ddibenion claddu, amlosgi neu ddatgladdu person ymadawedig neu osod neu brydlesu cofeb yn y mynwentydd neu’r amlosgfa sy’n cael eu rhedeg gan y Gwasanaethau Profedigaeth.

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i ddarparu’r gwasanaeth hwn yw Erthygl 6, 1(e) budd y cyhoedd a’r ddeddfwriaeth rydym yn dibynnu arni yw; Deddf Claddu 1857, Deddf Amlosgi 1902, Rheoliadau Amlosgi (Cymru a Lloegr) 2008, Rheoliadau Amlosgi, Crwneriaid a Hysbysu Marwolaethau (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2024 a Gorchymyn Mynwentydd Awdurdodau Lleol 1977, Gorchymyn Mynwentydd Awdurdodau Lleol (Diwygio) 1986, Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.

Sut rydym yn casglu eich data?

Rydych chi’n rhoi’r rhan fwyaf o’r data rydyn ni’n ei gasglu yn uniongyrchol i’r Gwasanaethau Profedigaeth.  Rydym yn casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch yn:

  • Cofrestru ar-lein neu’n archebu unrhyw un o’n cynhyrchion neu wasanaethau.
  • Cwblhau arolwg cwsmeriaid yn wirfoddol neu’n rhoi adborth ar unrhyw un o’n byrddau negeseuon, drwy e-bost neu drwy ddulliau cyfathrebu eraill.
  • Defnyddio ein gwefan neu’n edrych arni trwy gwcis eich porwr.
  • Cwblhau ffurflen gais claddu, ffurflen gais amlosgi, ffurflen gais goffa neu unrhyw ffurflen gais neu ohebiaeth arall gyda ni naill ai’n uniongyrchol neu drwy eich trefnydd angladdau neu saer meini coffa.

Efallai y bydd y Gwasanaethau Profedigaeth hefyd yn derbyn eich data’n anuniongyrchol o’r ffynonellau canlynol:

Eich trefnydd angladdau neu saer meini coffa

Sut byddwn yn defnyddio eich data?

Mae’r Gwasanaethau Profedigaeth yn casglu eich data fel y gallwn:

  • Ymgymryd â threfniadau angladd yr ymadawedig
  • Trefnu cofeb neu brydles goffa
  • Prosesu eich archeb a rheoli’r brydles ar gyfer eich cofeb
  • Datgladdu
  • Gohebu â chi ynglŷn ag unrhyw ymholiadau neu geisiadau am wasanaethau y gallech fod wedi’u gwneud.

Os ydych chi’n cytuno, bydd Gwasanaethau Profedigaeth yn rhannu eich data gyda chyfarwyddwyr angladdau a seiri meini coffa i hwyluso trefnu angladd neu osod cofeb yn un o’n mynwentydd. Bydd y manylion hyn yn cynnwys enw a chyfeiriad deiliad yr hawl claddu unigryw.

Bydd y Gwasanaethau Profedigaeth yn rhannu eich data gydag a ar sail ad hoc, fel rheoli tenantiaeth pan fydd angen manylion perthynas agosaf person ymadawedig sy’n denant yn eu heiddo, neu adran y Dreth Gyngor.

Sut rydym yn storio eich data?

Mae Gwasanaethau Profedigaeth yn storio’ch data yn ddiogel yn ystafell gofnodion Swyddfa Ymholiadau Draenen Pen-y-graig ac yng nghyfleuster rheoli cofnodion Neuadd y Sir. Mae data hefyd yn cael ei storio ar y Cwmwl trwy ein

Bydd y Gwasanaethau Profedigaeth yn cadw eich gwybodaeth bersonol fel y disgrifir uchod am gyfnod y Mae Cofrestrau Claddu, Amlosgi a Datgladdu yn cael eu cadw am byth ac maent ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd, ond dim ond am gyfnod o hyd at 15 mlynedd y cedwir y ffurflenni cais eu hunain.

Beth yw eich hawliau diogelu data?

Hoffai’r Gwasanaethau Profedigaeth wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:

Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaethau Profedigaeth am gopïau o’ch data personol.  

Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaethau Profedigaeth gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi.  Mae gennych hawl hefyd i ofyn i’n Cwmni ychwanegu gwybodaeth er mwyn llenwi bylchau mewn gwybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.

Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaethau Profedigaeth ddileu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaethau Profedigaeth roi cyfyngiadau ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu i’r Gwasanaethau Profedigaeth brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i’r Gwasanaethau Profedigaeth drosglwyddo’r data yr ydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.

Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.  Os hoffech chi arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost:

Ffoniwch ni yn: 02920544820 neu ysgrifennwch atom:  Gwasanaethau Profedigaeth, Heol Draenen Pen-y-graig, Rhiwbeina, Caerdydd CF14 9UA neu e-bostiwch DerbynfaDraenenPen-y-Graig@caerdydd.gov.uk.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Mae Ein Cwmni yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 01.10.2025

Sut i gysylltu â ni  

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisïau preifatrwydd y Gwasanaethau Profedigaeth, y data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio diogeludata@caerdydd.gov.uk neu drwy’r post:   

Swyddog Diogelu Data   
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth    
Neuadd y Sir  
Glanfa’r Iwerydd  
Caerdydd  
CF10 4UW    

Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol   

Os hoffech gwyno neu os ydych yn teimlo nad yw’r Gwasanaethau Profedigaeth wedi mynd i’r afael yn briodol â’ch cwyn, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy eu gwefan https://ico.org.uk/concerns/getting/ neu drwy ffonio 0303 123 1113.