Beddau Rhyfel y Gymanwlad
Mae Panel Gwybodaeth i Ymwelwyr wedi’i osod yn ddiweddar ym Mynwent Cathays i roi gwybodaeth am y lladdedigion rhyfel sydd wedi’u claddu yno. Mae hwn yn un o nifer o baneli sy’n cael eu gosod i helpu i godi ymwybyddiaeth o feddau’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd yn y DU (Ebr 2013).
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd dinas Caerdydd yn un o ganolfannau Rheolaeth Dynesfeydd y Gorllewin y Llynges Frenhinol. Fe’i difrodwyd yn ddifrifol yn sgil ymosodiad gan awyrennau’r gelyn yn ystod rhan gyntaf Rhyfel 1939-1945 ac mae wedi’i hailadeiladu i raddau helaeth.
Agorwyd y fynwent, a adwaenir yn lleol fel Mynwent Cathays, ym 1859 ac fe’i hestynnwyd i gwmpasu mwy na 100 erw.
Nodweddion
Mae’r fynwent yn cynnwys beddau rhyfel o’r ddau ryfel byd. Mae ychydig dros draean o gladdedigaethau 1914-1918 wedi’u cynnwys mewn Llain Beddau Rhyfel sy’n rhan o Adran EB. Mae’r llain hwn ar ddau lwybr sy’n cydgyfarfod ac yn arwain at y brif fynedfa. Mae gweddill y beddau wedi’u gwasgaru mewn rhannau eraill o’r fynwent.
Ar ôl Rhyfel 1914-1918, codwyd Croes Aberth o flaen y llain yn yr ongl a ffurfir gan gyffordd y ddwy ffordd, ac mae’r cyfan yn ffurfio safle ar sail ynys drionglog. Mae claddedigaethau Rhyfel 1939-1945 wedi’u gwasgaru drwy’r fynwent mewn mwy na 30 o wahanol adrannau. Mae nifer ohonynt yn awyrenwyr a ddaeth o orsafoedd y Llu Awyr Brenhinol yng Nghaerdydd a Sain Tathan. Erbyn hyn mae bron 500 o laddedigion rhyfel 1914-1918 a mwy na 200 o laddedigion rhyfel 1939-1945 yn cael eu coffáu yn y safle hwn. Mae tua 40 o Wladolion Tramor Ffrainc a Norwy hefyd yn cael eu coffáu yma.