Gardd Annwyl Fam

Mae gardd ‘Annwyl Fam’ yn ased cymunedol unigryw sydd wedi’i osod ym Mynwent y Gorllewin sy’n un o fynwentydd prysuraf a mwyaf amrywiol Caerdydd.

Mae’r ardd goffa wedi’i chynllunio i ddarparu gwasanaeth cymorth therapiwtig i deuluoedd mewn profedigaeth mewn ffordd arbennig a rhyngweithiol iawn. Dyma’r cyntaf o’i math yn y DU.

Nodweddion

Mae cymeriadau o lyfr coffa o’r enw ‘Dear Mum’ wedi’u lleoli o amgylch yr ardd i helpu unrhyw un sydd wedi colli anwylyn ac i helpu plant yn benodol i ddelio â galar a cholled.

Wrth i’r plant a’u teuluoedd gerdded drwy’r ardd, byddant yn dod ar draws y cymeriadau o’r llyfr wrth i’r stori gael ei hailadrodd drwy arysgrifau ar bob cerflun.

Disgwylir i’r ardd gynnig lle cefnogol ac ystyriol i ymwelwyr gan roi cyfle iddynt alaru, siarad a dysgu am brofedigaeth.

Bydd plant a’u rhieni hefyd yn cael eu hannog i edrych am nifer o wenyn a bwystfilod bach eraill yn yr ardd. Mae taflen weithgareddau sy’n mynd drwy’r stori lle gallant ddysgu ffeithiau am wenyn a chymryd rhan mewn ‘dawns wenyn’ ar un o’r lonydd sgipio.

Ar ddiwedd y daith gerdded mae orsaf greu lle gall plant ddefnyddio’r papur a’r creonau a roddir i wneud cerdyn ac ysgrifennu at eu hanwylyn fel y gwnaeth Dora yn y stori.

Yn ogystal â chefnogi rhieni sydd wedi profi colled, bydd yr ardd o gymorth i frodyr a chwiorydd a’r gymuned ehangach.

Gall ysgolion ddefnyddio’r ardd hefyd i addysgu plant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd am brofedigaeth a cholled yn rhan o’u gwaith cwricwlaidd ehangach. Mae croeso hefyd i grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill a gallant ddefnyddio’r ardd i’w cynorthwyo yn eu gwaith gyda phlant a theuluoedd. Cysylltwch â’r Gwasanaethau Profedigaeth i gael mwy o wybodaeth.

Mae Gwasanaethau Profedigaeth Cyngor Caerdydd wedi gweithio gyda Cardiff and Newport Sands i greu’r lle arbennig hwn ac mae coeden helyg ar gael yn yr ardd i’r rheiny sydd wedi colli baban ac sy’n dymuno rhoi deilen goffa arni.

Sut i gyrraedd

Gweld tudalen y fynwent