Coed helyg coffa
Cofiwch eich anwylyn drwy roi deilen wedi’i phersonoli ar un o’n coed helyg coffa.
Mae canghennau’r coed wedi’u gwneud â llaw o fetel gyda boncyff ithfaen yn y canol. Mae’r coed wedi’u cynllunio i dreulio dros amser sy’n rhoi golwg wladaidd iddynt.
Mae pob deilen wedi’i gwneud o ithfaen solet a gellir rhoi arysgrif arni sy’n cynnwys enw, blwyddyn geni a blwyddyn marwolaeth eich anwylyn.
Lleoliad y coed helyg
Mae dwy goeden helyg goffa yng Ngerddi Coffa Amlosgfa Draenen Pen-y-graig.
Gallwch ddewis naill ai’r Goeden Helyg yng Ngardd y Clychau Aur, neu’r Goeden Helyg sydd yng nghanol y Gerddi Grug, Celyn a Thresi Aur.
Prisiau
Gwneud cais
I wneud cais am ddeilen wedi’i phersonoli ar un o’r Coed Helyg Coffa yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig, lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais.
Lawrlwytho’r ffurflen gais Coed Helyg Coffa (318kb PDF)
Postiwch y ffurflen wedi’i llenwi a siec i:
Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd
Heol Draenen Pen-y-graig,
Rhiwbeina,
Caerdydd
CF14 9UA.