Trefnu angladd eich hun
Nid oes yn rhaid i angladdau gael eu trefnu drwy wasanaethau cyfarwyddwr angladdau.
Fodd bynnag, os ydych yn trefnu angladd eich hun, bydd angen i chi:
- Gael tystysgrif gan y meddyg yn y feddygfa neu’r ysbyty.
- Cofrestru’r farwolaeth yn yr ardal lle mae’r farwolaeth wedi digwydd.
Gofynion Cyfreithiol
P’un a fyddwch yn trefnu claddedigaeth neu amlosgiad, mae angen i chi dan y gyfraith gyflwyno ffurflenni penodol i’r awdurdod claddu neu amlosgi.
Os ydych yn cynllunio claddedigaeth ar dir preifat, mae pethau gwahanol i’w hystyried.
Cysylltwch â ni i drafod beth yn union sydd ei angen.
Cludo’r ymadawedig
Rhaid i’r person sy’n trefnu’r angladd drefnu cludo’r ymadawedig i’r fynwent neu’r amlosgfa mewn cerbyd addas.
Rhaid iddo hefyd drefnu elorgludwyr. Rhaid eu bod yn gallu cario’r ymadawedig yn y cynhwysydd sydd wedi[‘i ddewis, i’r cerbyd ac ohono, i’r capel neu i’r bedd. Bydd angen iddynt ostwng yr ymadawedig i’r bedd, ac os dewisir ei gladdu byddwn yn darparu strapiau gostwng i wneud hyn.
Os ydych yn credu y gallwch drefnu angladd eich hun, ystyriwch y pwyntiau isod a chysylltwch â ni i gael cyngor.
- Rhaid i’r corff gael ei gludo’n briodol i’r fynwent neu’r amlosgfa mewn cynhwysydd gydag enw ac oedran yr ymadawedig wedi’u eu nodi’n glir arno. Y cynhwysydd a ddefnyddir amlaf yw arch.
- Os ydych yn bwriadu gwneud eich cynhwysydd eich hun, defnyddiwch gynhwysydd o’r maint lleihaf posibl i ddal yr ymadawedig, ond sicrhewch ei fod yn ddigon cryf i ddal y pwysau. Os byddwch yn dewis amlosgi, peidiwch â farneisio na pheintio’r cynhwysydd â phaent olew.
- Rhaid i’r deunyddiau a ddewisir ddefnyddio cyn lleied â phosibl o danwydd ffosil. Bydd dillad sy’n cynnwys ffibrau a wnaed gan ddyn, esgidiau neu eitemau rwber yn achosi mwg os cânt eu llosgi, ac ni ddylid eu rhoi yn y cynhwysydd. Os oes gennych unrhyw amheuon, cysylltwch â staff yr amlosgfa.