Dewis trefnydd angladdau

Wrth ddewis cyfarwyddwr angladdau a threfnu angladd, mae’n bwysig sicrhau eich bod yn fodlon ar y gwasanaeth a dderbyniwch. Dylai’r cyfarwyddwr angladdau gynnig dyfynbris wedi’i eitemeiddio o’r gost a rhoi gwybod i chi am unrhyw wahaniaethau mewn cost os bydd y trefniadau’n newid

Mae cyngor ar gostau ar gael gan y Gwasanaeth Cyngor Ariannol.

Gallwch gymharu costau trefnwyr angladdau ar Your Funeral Choice.

Er na all y Gwasanaethau Profedigaeth argymell cyfarwyddwr angladdau, heblaw am Wasanaeth Angladdau Cyngor Caerdydd, gall gynnig cyngor ar bob agwedd ar drefnu angladd.

Cod Ymddygiad

I’ch helpu i ddewis pa gyfarwyddwr angladdau i’w ddefnyddio, mae’n werth nodi bod rhai yn aelodau o sefydliadau proffesiynol ac y gallai fod ganddynt god ymddygiad a gweithdrefn gwyno.

I gael mwy o wybodaeth ewch i:

Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau

Cymdeithas Genedlaethol Cyfarwyddwyr Angladdau Perthynol ac. Annibynnol

Mae’r sefydliadau hyn yn cael eu rhedeg gan ac ar gyfer cyfarwyddwyr angladdau. Os ydych eisiau cwyno am gyfarwyddwr angladdau gallwch gysylltu â Safonau Masnach Cyngor Caerdydd.