Croeso i Wasanaethau Profedigaeth Caerdydds

Mae Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd yn rhan o Gyngor Dinas Caerdydd. Rydym yn gweithredu Amlosgfa Caerdydd yn Nraenen Pen-y-graig ac 8 mynwent yng Nghaerdydd.

Rydym yn deall ei bod yn anodd derbyn colli anwylyn a bod colli anwylyn yn golygu bod yn rhaid i chi wneud penderfyniadau ar adeg pan nad ydych yn barod i ddelio â nhw’n emosiynol.

Mae ein staff profiadol yma i gynnig cyngor di-duedd am ddim ar yr holl faterion sy’n berthnasol i angladdau ac i drefnu angladdau.

Mae ein gwasanaethau’n cynnwys gwerthu placiau coffa, blychau gweddillion wedi’u hamlosgi a chardiau cofio. Rydym hefyd yn darparu Gwasanaeth Angladdau Cyngor Caerdydd, sydd wedi cynnig opsiwn pris isel sefydlog i drigolion Caerdydd ers dros 20 mlynedd.

Rydym yn dîm cydymdeimladol a phroffesiynol, sy’n ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid ac mewn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf.