Mynd â gweddillion wedi’u hamlosgi
Gallwch fynd â gweddillion wedi’u hamlosgi i rywle arall i’w gwasgaru neu eu claddu’n breifat neu i’w cadw yn eich cartref nes bod y teulu’n barod i’w rhoi i orffwys.
Caiff tystysgrif amlosgi ei chyhoeddi bob tro a rhaid cael y caniatâd cywir cyn i unrhyw weddillion wedi’u hamlosgi gael eu gwasgaru neu eu claddu.
Bydd y gweddillion wedi’u hamlosgi mewn blwch bioddiraddadwy. Byddwn yn labelu’r blwch gydag enw eich anwylyn a byddwn yn rhoi tystysgrif i chi yn cadarnhau manylion yr amlosgi.
Cymerwch ofal arbennig o’r dystysgrif gan na ellir claddu’r lludw yn rhywle arall hebddi. Os ydych am fynd â’r lludw dramor i’w gladdu, rhowch wybod i ni gan y bydd angen i chi fynd â dogfennau ychwanegol.
Mae tiwbiau gwasgaru ar gael i’w prynu yn y swyddfa ymholiadau yn Nraenen Pen-y-graig.
Pricing
Tystysgrif amlosgi | £15 |
Tiwb gwasgaru | £25 |