Mynwent Draenen Pen-y-graig
Agorodd Mynwent Draenen Pen-y-graig ym 1952, gyda’r amlosgfa’n agor y flwyddyn ganlynol.
Ym mlwyddyn gyntaf yr amlosgfa, cynhaliwyd ychydig dros 1000 o amlosgiadau. Erbyn hyn cynhelir bron teirgwaith y ffigur hwn.
Yn 2000 agorodd Capel Briwnant i gynnig dewis amgen i gapel mawr y Wenallt ac i ddarparu ar gyfer y nifer cynyddol o angladdau. Ehangwyd y Fynwent yn 2010 ac agorwyd Swyddfa Ymholiadau newydd y flwyddyn ganlynol sy’n cynnig amgylchedd mwy priodol o lawer i deuluoedd gwrdd ar gyfer claddu a gwasgaru gweddillion wedi’u hamlosgi ac i wneud trefniadau ar gyfer eu hanwyliaid.
Siop flodau Pen-y-graig – 029 2062 0625
Gweld map mynwent Draenen Pen-y-graig
Cyfleusterau
- Mannau parcio ceir
- Mynediad i gerbydau
- Toiledau cyhoeddus hygyrch
- Swyddfa ymholiadau
- Swyddfa
- Siop flodau
Beddau ar gael
- Lawnt
- Traddodiadol
- Gweddillion wedi’u hamlosgi
Hefyd:
- Gardd wasgaru
- Colwmbariwm
- Llyfr cofio
- Placiau gardd goffa
- Coeden goffa
Capeli gorffwys
Mae gan fynwent Draenen Pen-y-graig ddau gapel gorffwys.
Oriau Agor
Yn ystod yr wythnos: 9am i 4:45pm
Penwythnosau a gwyliau banc: 10am i 3:45pm.
Sut i gyrraedd
Mynwent Draenen Pen-y-graig .
Thornhill Road,
Rhiwbina,
Caerdydd,
CF14 9UA.
Os yn defnyddio llywiwr lloeren, defnyddiwch god post CF14 6RG
Cynnal a chadw tiroedd y mynwentydd
Rydym yn dilyn rhaglen cynnal a chadw reolaidd ym mhob un o’n Mynwentydd
Rydym hefyd yn cynnig rhaglen cynnal a chadw beddau.