Gwasanaeth Coffa Babanod
Mae’r gwasanaeth coffa, a gefnogir gan Sands, yn galluogi’r rheiny sydd wedi colli babi, yn ogystal â’u teuluoedd a’u ffrindiau, i ddod ynghyd i’w cofio. Croeso i bawb.
Arweinir y gwasanaeth gan aelodau o Dîm Caplaniaeth Ysbyty Athrofaol Cymru.
Yn ystod y gwasanaeth gellir ysgrifennu cerdyn coffa ac yna gellir gosod cerigyn goffa yn y bowlen goffa.
Bydd aelodau o Gangen Caerdydd o Sands yn y gwasanaeth. Gallwch ddysgu mwy am Sands Caerdydd a Chasnewydd a sut y gallan nhw eich cefnogi chi drwy fynd i’w gwefan.