Gwasanaethau amlosgi
Yn Amlosgfa Caerdydd mae pob gwasanaeth yn unigryw, a byddwn yn gweithio gyda chi a’ch trefnydd angladdau i sicrhau bod eich gwasanaeth mor unigol â’ch anwylyn.
Mae nifer o bethau i feddwl amdanynt cyn i chi gysylltu â threfnydd angladdau. Os hoffech ymweld â’r capeli ymlaen llaw, cysylltwch â ni a gallwn drefnu apwyntiad gydag aelod o dîm yr amlosgfa.
Mae pob gwasanaeth yn 45 munud o hyd gan roi 30 munud i bob teulu yn y capel. Mae amser ychwanegol ar gael yn y capel os dymunwch er y codir cost am hyn.
Bydd angen i chi feddwl am yr amser yr hoffech i’r gwasanaeth gael ei gynnal. Os yw pobl yn teithio o bell i’r gwasanaeth, efallai yr hoffech gynnal y gwasanaeth yn nes ymlaen yn y dydd.
Mae gwasanaethau ar gael rhwng 9am a 4.45pm. Efallai y bydd modd cynnal gwasanaeth ar fore Sadwrn hefyd.
Rydym yn deall bod cerddoriaeth yn chwarae rhan mor bwysig mewn gwasanaeth angladd.
Meddyliwch am y gerddoriaeth yr hoffech ei chwarae yn yr angladd gan fod hyn yn anhygoel o bersonol, boed yn un o hoff ganeuon eich anwylyn neu’n ddarn o gerddoriaeth yr oeddech yn ei rannu â’ch gilydd.
Yn gyffredinol, mae darn o gerddoriaeth yn cael ei chwarae wrth fynd i mewn i’r capel ac wrth ei adael ac mae darnau myfyriol eraill yn cael eu chwarae yn ystod y gwasanaeth.
Mae gennym system gerddoriaeth ddigidol yma yn Nraenen Pen-y-graig. Mewn partneriaeth ag Obitus, rydym yn gallu sicrhau y gallwch ddewis o’r detholiad ehangaf posibl o gerddoriaeth ac artistiaid.
Os hoffech emynau yn y gwasanaeth, mae organ ar gael yng Nghapel y Wenallt neu gellir chwarae emynau gyda chôr yn canu drwy’r system gerddoriaeth.
Gall teyrngedau gweledol hefyd chwarae rhan annatod mewn gwasanaeth angladd. Mae teyrnged weledol unigryw ar gael yn y ddau gapel:
Obitus
Os oes gennych recordiad teuluol, fideo neu ddarn o gerddoriaeth unigryw, gall eich trefnydd angladdau uwchlwytho hyn i Obitus Mae’r ddolen yn agor mewn ffenestr newydd. neu roi Enw Defnyddiwr a Chyfrinair unigryw i chi i wneud hynny eich hun.
Ar gyfer ffrindiau a pherthnasau nad ydynt yn gallu bod yn bresennol, gallwch archebu:
- Copïau cofrodd
- Gwe-ddarllediad byw o ansawdd uchel o’r gwasanaeth neu gopi o hyn er mwyn ei wylio wedyn.
Ar gyfer babanod a phlant dan 18 oed rydym yn darparu gwe-ddarllediad byw gyda llun halo a sioe sleidiau am ddim.
Sut i archebu’r holl gerddoriaeth ac eitemau clyweledol.
Rhowch wybod i’ch trefnydd angladdau beth sydd ei angen arnoch, a bydd yn archebu popeth ar eich rhan.
Mae gan bob capel lenni voile a lliw y gellir eu cau ar ddiwedd y gwasanaeth i guddio’r arch o’r golwg. Chi sy’n penderfynu a yw’r llenni’n cael eu cau. Efallai bod cau’r llenni rhy derfynol; penderfyniad chi’n llwyr yw hyn.
Bydd angen i chi ddweud wrthym a hoffech:
- Ddod i mewn i’r amlosgfa ar ôl y gwasanaeth i weld yr arch yn mynd i mewn i’r ffwrnais;
- I’r amlosgi ddigwydd yr un diwrnod gwaith;
- I unrhyw fetelau fel mewnblaniadau orthopedig gael eu dychwelyd atoch;
- Tystysgrif amlosgi ychwanegol at ddibenion tollau.
Ar y diwrnod
Bydd eich gwasanaeth yn digwydd naill ai yng Nghapel Briwnant neu yng Nghapel y Wenallt.
Bydd gofalwr y capel yn aros i’ch cyfarch chi a’ch trefnydd angladdau.
Bydd ein staff proffesiynol a gofalgar yn ymwybodol o’ch ceisiadau unigol a byddant wedi paratoi’r gerddoriaeth a’r elfennau clyweledol i chi.
Ar ddiwedd y gwasanaeth, cewch eich cyfeirio at ardal sy’n benodol ar gyfer arddangos y teyrngedau blodau i’ch anwylyn.
Bydd eich anwylyn yn cael ei amlosgi’n unigol.
Ar ôl yr amlosgi
Mae nifer o opsiynau ar gael ar ôl yr angladd.
Amlosgi uniongyrchol
Mae amlosgi uniongyrchol yn ddewis amgen i angladd amlosgi traddodiadol. Mae hwn yn wasanaeth amlosgi nas mynychir.
Mae’r amlosgi yn digwydd yn gyfan gwbl ar wahân i unrhyw wasanaeth coffa arall y gallai teuluoedd a ffrindiau ddymuno ei drefnu. Gellir darparu’r gwasanaeth hwn drwy eich trefnydd angladdau yn eich amlosgfa leol yma yng Nghaerdydd.
Yma yn Nraenen Pen-y-graig, mae’r opsiwn angladd amlosgi uniongyrchol cost isel hwn ar gael am £500.
Yn dilyn yr amlosgi, gellir dychwelyd y lludw atoch drwy eich trefnydd angladdau er mwyn i chi gynnal eich digwyddiad coffa eich hun gyda theulu a ffrindiau yn ddiweddarach. Yn y digwyddiadau ffarwelio hyn, gall pawb, gan gynnwys aelodau ieuengaf y teulu neu hyd yn oed anifail anwes y teulu, ddod at ei gilydd ar adeg ac mewn man sy’n ystyrlon i’r teulu a’r ymadawedig.
Mae’n opsiwn da i’r bobl hynny nad ydynt yn dymuno cynnal gwasanaeth angladd ffurfiol neu nad ydynt yn hoffi angladdau. Neu i’r rheiny sydd wedi mynegi’r dymuniad nad ydynt am i’r teulu gynnal gwasanaeth angladd fel y cyfryw ond sy’n dymuno i’w bywyd gael ei ddathlu mewn ffordd arall.