Claddedigaethau

Beddau coetir

Ceir ardal gladdu mewn coetir ym Mynwent Draenen Pen-y-graig lle gall beddau gael eu prynu i’w defnyddio yn y dyfodol neu ar gyfer claddedigaethau sydd ar ddigwydd.

Mae’r coetir yn ardal naturiol a heddychlon a dim ond unwaith neu ddwywaith y flwyddyn y caiff y glaswellt ynddo ei dorri.

Nid oes cerrig beddau yn y coetir, dim ond arwyddbyst pren a fydd yn dadelfennu dros amser ac yn dod yn rhan o lawr y coetir.

Claddedigaethau