Claddedigaethau

Ailagor beddau teuluol

Gellir claddu mewn beddau a brynwyd yn y gorffennol. Weithiau bydd ein cofnodion yn nodi faint o le sydd ar ôl mewn bedd, ond nid yw’r wybodaeth hon ar gael ym mhob achos. Dim ond ar ôl cloddio’r bedd ar gyfer angladd y byddai’r wybodaeth hon yn dod i’r amlwg.

Er mwyn defnyddio bedd sydd eisoes wedi’i brynu, rhaid i chi gael caniatâd perchennog cofrestredig y bedd a dylech allu dangos gweithred y bedd. Os yw’r perchennog yn fyw, rhaid iddo lofnodi ar gyfer agor y bedd. Os yw perchennog y bedd wedi marw, mae angen i’w berthynas fyw agosaf gwblhau Datganiad Statudol, gan dyngu llw, i ddefnyddio’r bedd. Gall eich cyfarwyddwr angladdau drefnu hyn i chi.

Os oes mwy nag un berthynas agos o’r un genhedlaeth (e.e. wyrion ac wyresau), rhaid i un lofnodi i gadarnhau ei fod wedi cael caniatâd y gweddill i wneud hynny. Os nad ydych yn siŵr pwy sy’n berchen ar fedd neu pwy ddylai lofnodi i’w agor, cysylltwch â ni.

Mae’n werth nodi nad yw perchnogaeth dros fedd yn trosglwyddo’n awtomatig i rywun arall pan fo perchennog y bedd yn marw. Gellir ond ei throsglwyddo os dangosir ewyllys y perchennog i ni. Os oes angen i chi wneud hyn, cysylltwch â ni i wneud apwyntiad.

Gallwch ddysgu mwy am drosglwyddo perchnogaeth llain gladdu yma.

Claddedigaethau