Beddau lawnt
Mae beddau lawnt ar gael ym Mynwent y Gogledd, Mynwent Pant-mawr a Mynwent y Gorllewin ac mae modd gosod cofeb ar ben y bedd.
Ni all y gofeb fod yn fwy na 5” o uchder, 3” o led a 12″ o’r cefn i’r blaen.
Caiff prif ardal y bedd ei gorchuddio â hadau glaswellt neu dywarch ar yr adeg briodol (gweler gwybodaeth am gynnal a chadw ein tiroedd).
Ni chaniateir gosod eitemau ar adran laswellt y bedd. Mae hyn yn ein galluogi i’w chynnal a’i chadw i safon uchel.
Os teimlwch fod angen i chi osod cofeb fwy a/neu eitemau ar brif ran y bedd, byddai’n well dewis bedd yn yr adran draddodiadol.